OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 178 (Cy. 75)
TAI, CYMRU
Diogelu Defnyddwyr, Cymru
Rheoliadau Dyletswydd Asiantau Gosod i Roi Cyhoeddusrwydd i Ffioedd (Eithrio) (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn creu eithriad rhag Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“Deddf 2015”) sy’n gymwys i bobl broffesiynol ym maes y gyfraith mewn amgylchiadau penodol.
Mae Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2015 yn rhoi dyletswydd ar asiant gosod i roi cyhoeddusrwydd i fanylion ei ffioedd perthnasol drwy eu harddangos yn ei fangre a’u cyhoeddi ar ei wefan.
Diffinnir asiant gosod gan adran 84(1) o Ddeddf 2015 fel person sy’n ymgymryd â gwaith asiantaeth gosod (a ddiffinnir yn adran 86(1)) pa un a yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith arall ai peidio.
Mae Deddf 2015 yn darparu bod rhaid i asiant gosod gynnwys yn ei restr ffioedd unrhyw ffioedd sy’n daladwy iddo gan landlord neu denant mewn cysylltiad â gwaith asiantaeth gosod neu waith rheoli eiddo neu, fel arall, mewn cysylltiad â thenantiaeth sicr o dŷ annedd (gan gynnwys tenantiaeth sicr arfaethedig).
Mae Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (“Deddf 2007”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio’r sector gwasanaethau cyfreithiol gan reoleiddwyr cymeradwy. Mae’n darparu na chaniateir cynnal gweithgarwch cyfreithiol penodol, a elwir yn weithgarwch cyfreithiol a gedwir yn ôl, ac eithrio gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan reoleiddiwr cymeradwy (“person awdurdodedig”).
Yn y Rheoliadau hyn, mae i “gweithgarwch cyfreithiol” yr ystyr a roddir i “legal activity” gan adran 12 o Ddeddf 2007. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch cyfreithiol a gedwir yn ôl (er enghraifft, arfer yr hawl i ymddangos mewn achos ac ymladd achos) ac unrhyw weithgarwch arall sy’n cynnwys darparu cyngor cyfreithiol neu gymorth cyfreithiol mewn cysylltiad â chymhwyso’r gyfraith neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddull o ddatrys anghydfodau cyfreithiol, a/neu ddarparu cynrychiolaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chymhwyso’r gyfraith neu gydag unrhyw ddull o ddatrys anghydfodau cyfreithiol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw personau awdurdodedig o fewn yr ystyr a roddir i “authorised persons” yn Neddf 2007 yn asiantau gosod at ddibenion Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2015 pan fônt yn ymgymryd â gweithgarwch cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf 2007. Yn unol â hyn, eithrir personau awdurdodedig sy’n ymgymryd â gweithgarwch cyfreithiol rhag y ddyletswydd ar asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol oni bai eu bod hefyd yn ymgymryd â gwaith gosod nad yw’n “weithgarwch cyfreithiol”.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 178 (Cy. 75)
TAI, CYMRU
Diogelu Defnyddwyr, Cymru
Rheoliadau Dyletswydd Asiantau Gosod i Roi Cyhoeddusrwydd i Ffioedd (Eithrio) (Cymru) 2016
Gwnaed 8 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 16 Chwefror 2016
Yn dod i rym 15 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 84(3) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015([1]):
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn
yw Rheoliadau Dyletswydd Asiantau Gosod i Roi Cyhoeddusrwydd i
Ffioedd (Eithrio) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru’n unig.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007([2]);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015;
mae i “gweithgarwch cyfreithiol” (“legal activity”) yr ystyr a roddir i “legal activity” gan adran 12 o Ddeddf 2007; ac
mae i “person awdurdodedig” (“an authorised person”) yr ystyr a roddir i “authorised person” gan adran 18 o Ddeddf 2007.
Personau nad ydynt yn asiantau gosod
3. At ddibenion Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2015, nid yw person yn asiant gosod—
(a) os yw’r person yn berson awdurdodedig; a
(b) os yw’r person yn ymgymryd â gweithgarwch cyfreithiol ac nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn adran 86(1) o Ddeddf 2015.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2016